Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Gweithio i ni

Eisteddodd yr Arolygydd wrth ddesg

Gwybodaeth am ein swyddi gwag cyfredol a sut y gellwch nweud cais.

Pam y dylech weithio i ni

Mae ein timau’n  cynnwys pobl broffesiynol sydd â sgiliau ac arbenigeddau gwahanol i sicrhau bod gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymdeithasol yn ddiogel ar gyfer y bobl sy'n eu defnyddio.

Gall gweithio i ni fod yn rôl sy'n rhoi boddhad p'un chi'n gweithio gyda'n timau cofrestru, arolygu, a gorfodi neu yn ein tîm gwasanaethau cymorth sy'n cynnwys ein timau cyfathrebu, AD a dysgu a datblygu.

Meini prawf ar gyfer rolau'r arolygydd

Mae meddu ar gymhwyster gofal cymdeithasol/addysg cydnabyddedig yn ogystal â phrofiad perthnasol yn ddelfrydol. Fodd bynnag, derbynnir ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n gymwys i lefel gradd neu'n uwch (mewn unrhyw bwnc) sydd â phrofiad sylweddol o ddiogelu a/neu wella canlyniadau i bobl mewn cyd-destun iechyd neu ofal cymdeithasol.

Enghreifftiau o gymwysterau gofal cymdeithasol / addysg derbyniol yw (ond heb fod yn gyfyngedig i):

  • Diploma mewn Gwaith Cymdeithasol (neu gymhwyster Gofal Cymdeithasol Cymru cyfatebol),
  • cymhwyster nyrsio neu gymhwyster sy'n gysylltiedig â gofal iechyd,
  • cymhwyster addysgu neu addysg,
  • gradd mewn Astudiaethau Blynyddoedd Cynnar/Plentyndod,
  • Diploma Lefel 5 mewn Arwain Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol neu mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant

Swyddi gwag

Nid oes unrhyw swyddi gwag ar gael ar hyn o bryd.

Gallwch hefyd ymweld â GoFalwn Cymru (Dolen allanol) – Basdata o gyfleoedd am swyddi blynyddoedd cynnar a gofal cymdeithasol.

Cofrestrwch i dderbyn hysbysebion swyddi

Os oes diddordeb gennych mewn gweithio i ni gallwch gofrestru i dderbyn hysbysebion swyddi. Pan gaiff swyddi eu hysbysebu byddwch yn derbyn e-bost ynglŷn â'n swyddi gwag cyfredol.